Livestock feed controls review for England and Wales

Closes 1 Apr 2025

Opened 4 Feb 2025

Overview

This consultation will be open for 8 weeks from 04/02/2025 to 01/04/2025.   

Please read the full consultation document before completing this survey.

This public consultation is for England and Wales only. A separate consultation on the same topic was published by the Scottish Government. Please only respond to one consultation, where your interest centres.  

This is a consultation on whether England and Wales should change its livestock feed controls, to allow:  

  • poultry processed animal protein (PAP) in porcine feed 

  • porcine PAP in poultry feed 

  • insect PAP in pig and poultry feed 

  • ruminant collagen and gelatine (C&G) in non-ruminant feed 

Transmissible spongiform encephalopathies (TSEs) are a group of fatal neurological diseases. TSEs notably include scrapie in sheep and goats, bovine spongiform encephalopathy (BSE) – also known as ‘Mad Cow disease’ – in cattle, chronic wasting disease (CWD) in deer, and variant Creutzfeldt-Jakob disease (vCJD) in humans.  

The first case of BSE in the United Kingdom (UK) occurred in 1986 and since then there have been 180,000 confirmed cases of BSE in cattle in the UK. At the height of the epidemic in 1992, 37,056 cases were confirmed. Classical BSE occurs through the consumption of feed contaminated with the BSE agent and is considered zoonotic (transmissible to humans) due to its assumed link with vCJD through the consumption of contaminated meat.   

The strict BSE control measures introduced in the UK in 1988 (The Feeding Stuffs Regulations 1988), 1996 (The Bovine Spongiform Encephalopathy (Amendment) Order 1996), and in 2001 (Regulation (EC) No 999/2001) prohibit animal protein from being fed to farmed animals, with very limited exceptions. This prevents BSE agents being recycled back into the ruminant (including cattle, sheep, and deer) population. Compliance with these feed controls is also monitored by the Animal and Plant Health Agency (APHA) through the National Feed Audit (NFA).  

These livestock feed controls, amongst other BSE control measures, have greatly reduced the incidence of BSE in the UK. The UK has had just five cases of classical BSE since 2014.  

Our understanding of BSE and how it is transmitted has also increased greatly in this time, and the livestock feed regulations no longer reflect current scientific knowledge or the level of BSE risk. 

Although these controls are effective, they were made in a precautionary manner, when little was known about BSE. Since then, research has demonstrated that pigs and poultry are not naturally susceptible to TSEs and improvements in feed testing methods allow the differentiation between ruminant and non-ruminant proteins and can detect the presence of porcine or poultry protein. 

In 2021 the European Union (EU) amended its TSE legislation to allow the use of a wider range of animal proteins in non-ruminant animal feed.

These amendments are part of the EU TSE roadmap to review BSE controls, in the light of the reduced incidence of BSE and increased knowledge of the disease. The UK supported the roadmap when it was an EU member. 

A risk assessment of the proposed changes concluded that these maintain the level of protection of human and animal health as afforded by current controls. This consultation is therefore seeking views on amending domestic legislation to implement the proposed changes. 

These changes would enable investment in the insect protein sector, open new markets for renderers and could vary diets for livestock, whilst ensuring we maintain the UK’s high level of biosecurity, animal and public health protection and not increasing TSE risk. It would also maintain a level playing field with the EU. 

Key protections will remain in place, including the banning of PAP of ruminant origin being fed to ruminants, a requirement by the World Organisation for Animal Health (WOAH). Animal By-product (ABP) regulations would still prohibit intra-species recycling. 

 

Bydd yr ymgynghoriad hwn ar agor am 8 wythnos rhwng 04/02/2025 a 01/04/2025.

Dim ond ar gyfer Cymru a Lloegr mae’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn. Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar wahân ar yr un pwnc. Ymatebwch i un ymgynghoriad yn unig, hynny yw, yr un lle mae eich diddordeb.

Ymgynghoriad yw hwn ynghylch a ddylai Cymru a Lloegr newid eu rheolaethau bwyd anifeiliaid er mwyn caniatáu’r canlynol:

• protein dofednod wedi'i brosesu mewn bwyd moch

• protein moch wedi'i brosesu mewn bwyd dofednod

• protein pryfed wedi'i brosesu mewn bwyd moch a dofednod

• colagen a gelatin anifeiliaid sy’n cnoi cil mewn bwyd anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil

Grŵp o glefydau niwrolegol angheuol ydy enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (TSEau). Yn benodol, mae TSEau yn cynnwys clefyd y crafu mewn defaid a geifr, enseffalopathi sbyngffurf buchol (BSE) – a elwir hefyd yn ‘glefyd y gwartheg gwallgof’ – mewn gwartheg, nychdod cronig (CWD) mewn ceirw, a chlefyd amrywiolyn CreutzfeldtJakob (vCJD) mewn pobl.

Gwelwyd yr achos cyntaf o BSE yn y Deyrnas Unedig (DU) ym 1986, ac ers hynny mae dros 180,000 o achosion wedi cael eu cadarnhau mewn gwartheg yn y DU. Cadarnhawyd 37,056 o achosion ar anterth yr epidemig ym 1992. Mae BSE clasurol yn digwydd drwy fwyta bwyd sydd wedi'i halogi â'r cyfrwng BSE ac ystyrir ei fod yn filheintiol (trosglwyddadwy i bobl) yn sgil ei gysylltiad tybiedig â vCJD wrth fwyta cig wedi'i halogi.

Mae'r mesurau rheoli BSE llym a gyflwynwyd yn y DU ym 1988 (Rheoliadau Porthiant 1988), 1996 (Gorchymyn Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (Diwygio) 1996), ac yn 2001 (Rheoliad (CE) Rhif 999/2001) yn gwahardd bwydo protein anifeiliaid i anifeiliaid fferm, gyda rhai eithriadau (gweler yr Atodiad am fwy o fanylion). Mae hyn yn atal cyfryngau BSE rhag cael eu hailgylchu yn ôl i'r boblogaeth o anifeiliaid sy'n cnoi cil (gan gynnwys gwartheg, defaid, geifr a cheirw). Mae cydymffurfiad â’r rheolaethau bwyd anifeiliaid hyn hefyd yn cael ei fonitro gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) drwy’r Archwiliad Cenedlaethol o Fwydydd Anifeiliaid (NFA).

Mae’r rheolaethau bwyd anifeiliaid hyn, ymysg mesurau rheoli BSE eraill, wedi lleihau nifer yr achosion o BSE yn sylweddol yn y DU. Dim ond pum achos o BSE clasurol sydd wedi bod yn y DU ers 2014.

Mae ein dealltwriaeth o BSE a sut y caiff ei drosglwyddo hefyd wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y cyfnod hwn, ac nid yw'r rheoliadau bwyd anifeiliaid bellach yn adlewyrchu gwybodaeth wyddonol gyfredol na lefel risg BSE.

Er bod y rheolaethau hyn yn effeithiol, cawsant eu creu mewn modd rhagofalus pan oedd gwybodaeth am BSE yn gyfyngedig. Ers hynny, mae ymchwil wedi dangos nad yw moch a dofednod yn agored i TSEau yn naturiol, ac mae gwelliannau mewn dulliau profi bwyd yn ein galluogi i wahaniaethu rhwng proteinau anifeiliaid sy'n cnoi cil a phroteinau anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil os ydynt yn cael eu canfod mewn bwyd ac rydym yn gallu canfod presenoldeb protein moch neu ddofednod.

Yn 2021, diwygiodd yr Undeb Ewropeaidd (UE) ei ddeddfwriaeth TSE i ganiatáu defnyddio ystod ehangach o broteinau anifeiliaid mewn bwyd anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil.

Mae'r diwygiadau hyn yn rhan o fap TSE yr UE i adolygu rheolaethau BSE yng ngoleuni'r gostyngiad yn nifer yr achosion o BSE a gwell dealltwriaeth o’r clefyd. Roedd y DU yn cefnogi’r map pan oedd yn aelod o’r UE.

Daeth asesiad risg o’r newidiadau arfaethedig i’r casgliad bod y rhain yn rhoi’r un lefel o warchodaeth i iechyd dyn ac anifeiliaid â’r mesurau rheoli presennol. Felly, bwriad yr ymgynghoriad hwn yw gofyn am farn ynghylch diwygio’r ddeddfwriaeth ddomestig er mwyn rhoi’r newidiadau arfaethedig ar waith.

Byddai’r newidiadau hyn yn galluogi buddsoddi yn y sector protein pryfed, yn agor marchnadoedd newydd i rendrwyr, ac yn galluogi amrywio diet anifeiliaid, gan sicrhau ein bod yn cynnal lefel uchel y DU o bioddiogelwch ddiogelu iechyd y cyhoedd ac anifeiliaid a pheidio â chynyddu’r risg TSE. Byddai hefyd yn sicrhau chwarae teg gyda’r UE.

Bydd mesurau diogelu allweddol yn parhau i fod ar waith, gan gynnwys gwahardd protein wedi’i brosesu o anifeiliaid sy'n cnoi cil rhag cael ei fwydo i anifeiliaid sy’n cnoi cil, gofyniad gan Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd (WOAH). Byddai rheoliadau sgil-gynhyrchion anifeiliaid (ABP) yn dal i wahardd ailgylchu o fewn yr un rhywogaeth.

Why your views matter

This consultation is open to the public. It is important for us to hear from those who will be directly impacted by the proposals. This includes, but is not limited to, members of the public, livestock keepers, farmers, home compounders, feed mills, renderers, cutting plants, abattoirs, hauliers, industry trade bodies, enforcement officers as well as non-governmental organisations with an interest in livestock feed controls.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn agored i’r cyhoedd. Mae’n bwysig ein bod yn clywed gan y rhai y bydd y cynigion yn effeithio’n uniongyrchol arnynt. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, aelodau o’r cyhoedd, ceidwaid da byw, ffermwyr, cyfunwyr gartref, melinau bwyd, rendrwyr, gweithfeydd torri, lladd-dai, cludwyr, cyrff masnach y diwydiant, swyddogion gorfodaeth yn ogystal â chyrff anllywodraethol sydd â diddordeb mewn rheolaethau bwyd anifeiliaid.

Give us your views

Audiences

  • Animal welfare campaigners
  • Operators of animal gatherings
  • Abattoir Operator
  • Government Departments
  • Government Agencies
  • Devolved Administrations
  • Business/Private Sector
  • Veterinarians
  • All Defra staff and ALBs
  • Member of the General Public
  • Farmers

Interests

  • Animals
  • Consultations
  • DEFRA Policy
  • Food standards
  • Poultry industry
  • Cattle
  • Pigs
  • Poultry
  • Animal diseases
  • Animal welfare
  • Livestock disease control
  • Meat Industry