Yr arferion mewn contractau yn sector moch y Deyrnas Unedig

Closed 7 Oct 2022

Opened 15 Jul 2022

Overview

Mae'r sector moch wedi gweld heriau arwyddocaol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cafodd gormodedd o foch, a gododd o ganlyniad i ostyngiad cyflym yn y galw am allforion yn Tsieina, a diffyg cigyddion medrus ar safleoedd prosesu, ei ddwysáu gan Covid-19 ac arweiniodd at ôl-groniad sylweddol o foch ar ffermydd.

Mewn ymateb i'r heriau hyn, rhoddwyd amryw o fesurau allweddol ar waith. Yn y Deyrnas Unedig, lansiodd y llywodraeth gynllun fisas dros dro a ganiataodd i hyd at 800 o gigyddion medrus ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig am uchafswm o 6 mis, ar ben y ddarpariaeth bresennol ar gyfer cigyddion yn y llwybr Gweithwyr Medrus. Yn Lloegr, agorwyd Cynllun Cymorth Storio Preifat a oedd yn galluogi proseswyr i roi moch heb eu cigydda a moch wedi'u cigydda mewn storfeydd wedi'u rhewi am gyfnod o rhwng 2 a 6 mis cyn caniatáu i'r cynnyrch ailymuno â'r farchnad yn ddiweddarach. Lansiwyd Cynllun Taliadau Cymhelliant Lladd hefyd i gymell proseswyr i gynyddu nifer y moch a oedd yn mynd drwy’r lladd-dai drwy dalu £10 am bob mochyn a leddid mewn sifftiau a oedd yn ychwanegol at batrymau gwaith arferol y proseswyr. Gallai hyd at 100,000 o foch gael eu lladd o dan y cynllun hwn. Mae'r llywodraeth hefyd yn gweithio'n agos gyda’r AHDB i ehangu’r allforion presennol ac i nodi cyfleoedd newydd i allforio, yn enwedig ar gyfer cig moch wedi'i brosesu'n ysgafn. Yng Ngogledd Iwerddon, cyhoeddodd DAERA gynllun cymorth gwerth hyd at £2m ar gyfer ffermwyr moch a oedd wedi’u heffeithio'n ariannol gan farchnadoedd gwannach, costau porthiant uwch a symud moch oddi ar y fferm i'w lladd, a lansiwyd ym mis Mai. Mae llywodraeth yr Alban hefyd wedi rhoi mesurau ar waith i gynorthwyo'r sector ar hyn o bryd gyda Chynllun Cymorth Storio Preifat a chronfa caledi moch i gynhyrchwyr moch.

Rydym yn cydnabod bod modd gwneud mwy.  Mae rhanddeiliaid wedi awgrymu bod yna ddiffyg tryloywder rhwng proseswyr a chynhyrchwyr, ac y gallai dull mwy cyson ymysg proseswyr ddod â manteision cadarnhaol i'r sector.

Ymgynghoriad ledled y Deyrnas Unedig yw hwn, sy’n cael ei gynnal gan DEFRA gyda chytundeb Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a DAERA. Caiff unrhyw gamau pellach mewn ymateb i ganfyddiadau'r ymgynghoriad hwn eu trafod a'u cytuno gyda'r Gweinyddiaethau Datganoledig.

Why your views matter

Diben yr ymgynghoriad hwn yw casglu tystiolaeth am sut mae trefniadau cyflenwi yn y sector moch yn gweithredu ar hyn o bryd ac ystyried natur y berthynas rhwng y gwahanol bartïon yn y gadwyn gyflenwi. Mae hefyd yn gofyn am sylwadau ynghylch a oes modd gwella sut mae’r gadwyn gyflenwi’n gweithio.  

Mae cynhyrchwyr moch yn y Deyrnas Unedig yn tueddu i fod yn fusnesau bach, unigol. Fel arfer, mae'r cynhyrchwyr hyn yn cyflenwi busnesau cyfunol iawn ymhellach i fyny'r gadwyn gyflenwi sydd â chyfrannau sylweddol o'r farchnad. Gall y gwahaniaeth hwn olygu bod cynhyrchwyr moch yn agored i arferion masnachu annheg.  Cyflwynodd Deddf Amaethyddiaeth 2020 y 'Pwerau Trafod Teg' sydd wedi’u bwriadu i fynd i'r afael ag unrhyw arferion annheg, gan alluogi'r Llywodraeth i gyflwyno rheoliadau i oruchwylio'r berthynas rhwng cynhyrchwyr a phrynwyr lle bo angen hynny.

Bydd unrhyw ymyriadau yn y sector moch yn sgil yr ymgynghoriad hwn yn cael eu cynllunio i sicrhau y gall busnesau fferm ymgymryd â gwaith cynllunio busnes a gwaith rheoli risg craff, gan gefnogi sector cystadleuol a gwydn sy'n sicrhau manteision i gynhyrchwyr, defnyddwyr a threthdalwyr.

What happens next

Bydd ymatebion sy’n dod i law erbyn 7 Hydref 2022 yn cael eu dadansoddi a'u hystyried gan holl weinyddiaethau'r Deyrnas Unedig wrth ystyried y mesurau y mae eu hangen er mwyn gwella tryloywder yn y sector moch. Trefnir bod yr ymatebion ar gael i'r timau perthnasol o swyddogion polisi yn y Gweinyddiaethau Datganoledig, a all rannu dadansoddiadau a chasgliadau gyda chydweithwyr uwch a’r Gweinidogion.

Bydd crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn: www.gov.uk/defra. Bydd atodiad i grynodeb yr ymgynghoriad yn rhestru'r holl sefydliadau a ymatebodd a pha ran o'r Deyrnas Unedig y maent yn ei chynrychioli ond ni fydd yn cynnwys enwau personol, cyfeiriadau na manylion cyswllt eraill.

Audiences

  • Abattoir Operator

Interests

  • Pigs
  • Retailers
  • Meat Industry