Perthynas gytundebol yn niwydiant wyau’r DU
Overview
Mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag annhegwch mewn cytundebau lle mae’n bodoli yn y gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth. Yn Uwchgynhadledd O’r Fferm i'r Fforc y DU a gynhaliwyd yn Stryd Downing ar 16 Mai 2023, fe wnaethom gyhoeddi adolygiad newydd i degwch yn y gadwyn cyflenwi wyau. Mae’n adeiladu ar yr adolygiadau sydd eisoes ar waith gan ddefnyddio pwerau o dan a.29 o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 i wella tryloywder a threfniadau cytundebol teg yn y sectorau llaeth a moch.
Mae’r sector wyau ieir wedi wynebu nifer o heriau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’r rheiny wedi effeithio ar gyflenwad wyau. Mae effeithiau byd-eang wedi arwain at gynnydd sylweddol o ran costau mewnbwn ar gyfer bwyd anifeiliaid ac ynni ar yr un pryd ag y mae'r sector wedi delio ag effeithiau'r achosion digynsail o Ffliw Adar. Mae’r diwydiant wedi adrodd bod poblogaeth ieir dodwy yn y DU, a oedd yn 43 miliwn yn 2021, wedi gostwng i 38 miliwn yn 2022.
Mae defnyddwyr y DU wedi sbarduno’r galw am wyau maes. O ganlyniad, yn 2022, roedd dros 60% o’r wyau a gynhyrchwyd yn y DU yn wyau maes (gweler ystadegau chwarterol y DU am wyau hyd at fis Mehefin 2023). Mae rhagor o newidiadau’n debygol o ddod i’r sector dros y blynyddoedd nesaf, gyda phrif fanwerthwyr y DU yn ymrwymo i roi’r gorau i werthu wyau sy’n cael eu cynhyrchu gan ieir sy'n cael eu cadw mewn cewyll erbyn 2025.
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar wyau a gynhyrchir gan ieir a fydd yn cael eu bwyta gan bobl, a bwriedir i unrhyw gyfeiriad at ‘wyau’ gyfeirio at wyau ieir. Mae’r ymgynghoriad hwn yn dilyn ymgynghoriadau tebyg sydd eisoes wedi cael eu cynnal i edrych ar y sectorau llaeth a moch; cam nesaf llywodraeth y DU yw cyflawni ein hymrwymiad i ymgynghori ynghylch yr angen am reoliadau tegwch yn y gadwyn gyflenwi fesul sector.
Audiences
- Food Industry
- Farmers
Interests
- Egg industry
Share
Share on Twitter Share on Facebook