Perthnasoedd mewn contractau yn niwydiant cynnyrch ffres y Deyrnas Unedig

Closed 22 Feb 2024

Opened 14 Dec 2023

Overview

Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag annhegwch mewn contractau lle mae'n bodoli yn y gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth. Yn Uwchgynhadledd y Deyrnas Unedig, O’r Fferm i’r Fforc, a gynhaliwyd yn Downing Street ar 16 Mai 2023 cyhoeddodd llywodraeth y Deyrnas Unedig adolygiad newydd o degwch yn y gadwyn gyflenwi garddwriaeth er mwyn helpu ffermwyr Prydain a gwella diogelwch bwyd. Mae hyn yn adeiladu ar yr adolygiadau sydd gennym ar y gweill yn barod gan ddefnyddio pwerau o dan adran 29 o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 i wella tryloywder a bargeinio teg mewn contractau yn y sectorau llaeth a phorc, ac ym mis Hydref lansiwyd adolygiad o'r sector wyau. Mae'r adolygiad yma yn canolbwyntio ar gynnyrch ffres yn y sector garddwriaeth bwytadwy, y cyfeirir ato fel 'cynnyrch ffres' drwy’r ymgynghoriad yma i gyd. 

Mae cannoedd o wahanol gnydau cynnyrch ffres sy'n amrywio'n fawr o ran y farchnad y mae'r cynnyrch yn cael ei werthu iddi, amodau tyfu a darfodusrwydd. Mae’r diwydiant a'r llywodraeth wedi datblygu dulliau amrywiol ar gyfer grwpio cnydau cynnyrch ffres; ond, does dim un dull cyson sy'n ateb pob angen. I adlewyrchu'r dulliau grwpio presennol wrth ateb anghenion penodol yr adolygiad yma, rydym wedi categoreiddio cnydau yn 16 grŵp, a restrir yng nghwestiwn 14. 

Mae'r sector cynnyrch ffres wedi wynebu nifer o heriau arwyddocaol yn ystod y blynyddoedd diwethaf a’r rheiny wedi effeithio ar gynhyrchu cnydau ar draws y sector. Mae costau ynni, tanwydd a llafur wedi codi'n arwyddocaol yr un pryd ag y mae'r sector wedi delio ag effeithiau amodau hinsawdd digynsail ac anwadal. Gellir gweld yr effeithiau ar draws y sector; er enghraifft, mae’r diwydiant yn dweud bod yna ostyngiad mewn cynhyrchu tomatos ac aeron yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf a disgwylir rhagor o ostyngiadau y flwyddyn nesaf. 

Mae ymwneud â'r diwydiant wedi amlygu pryderon ynghylch lleihau proffidioldeb yn y sector, sy’n arwain llawer o gynhyrchwyr i ffwrdd o'r diwydiant, yn enwedig lle mae angen seilwaith arbenigol ar gyfer cnydau gyda chostau cynhyrchu perthynol sy’n uwch. Mae cynnydd arwyddocaol mewn costau cynhyrchu yn ychwanegu at bryderon cyflenwi, os yw'r enillion yn anghynaliadwy; er enghraifft, mae’r diwydiant yn dweud bod cost cynhyrchu tatws wedi cynyddu'n arwyddocaol yn y blynyddoedd diwethaf.  

Mae'r ymgynghoriad yma yn dilyn ymgyngoriadau tebyg sydd eisoes wedi’u cynnal i edrych ar y sectorau llaeth, moch a wy, a dyma’n cam nesaf wrth gyflawni ymrwymiad llywodraeth y Deyrnas Unedig i ymgynghori ar yr angen am reoliadau tegwch yn y gadwyn gyflenwi fesul sector. 

Audiences

  • Charities/Voluntary Organisations
  • Trade Unions
  • Food Business Operators
  • Food Industry
  • Government Departments
  • Business/Private Sector
  • Policy Teams
  • All Defra staff and ALBs
  • Farmers
  • Horticulture Industry

Interests

  • Plants
  • Green economy
  • DEFRA Policy
  • Growing and crops
  • Retailers