Arferion contractiol yn y sector cnydau a gynaeafir â chombein yn y Deyrnas Unedig
Overview
Mae'r sector cnydau a gynaeafir â chombein yn y DU, sy'n cynnwys grawnfwydydd, hadau olew a chodlysiau, yn hollbwysig wrth sicrhau diogelwch bwyd cenedlaethol ac yn cyfrannu'n sylweddol at yr economi ehangach. Mae'r cnydau hyn yn darparu deunyddiau crai hanfodol nid yn unig i'w bwyta gan bobl ond ar gyfer bwydo anifeiliaid a chynhyrchu ynni adnewyddadwy hefyd. Er ei bwysigrwydd, mae'r sector yn wynebu heriau mawr fel tywydd eithafol yn sgil y newid yn yr hinsawdd, costau anwadal mewnbynnau fel gwrtaith a thanwydd, ac amrywiadau mewn marchnadoedd nwyddau byd-eang. Gall y pwysau hwn ddwysáu'r anghydbwysedd sy’n bodoli yn y pŵer bargeinio rhwng cynhyrchwyr a phrynwyr, a gall hyn yn ei dro danseilio sefydlogrwydd y sector.
Mae'r sector cnydau a gynaeafir â chombein yn rhan o farchnad gymhleth a chydgysylltiedig ar lefel fyd-eang sy'n cynnig cyfleoedd a heriau. Er bod y sector hwn yn aml yn fwy tryloyw na sectorau amaethyddol eraill – gyda llawer o brynwyr a marsiandwyr yn darparu contractau clir a gwybodaeth werthfawr am y farchnad – parhau mae’r heriau. Gall telerau contractiol neu delerau defnyddwyr aneglur, ynghyd â phrosesau cyfnewid data is na'r safon ar draws y gadwyn gyflenwi, gyfyngu ar fynediad cynhyrchwyr at wybodaeth amserol a chywir. Gallai hyn oll greu ansicrwydd i fusnesau fferm, a bod yn rhwystr sy'n atal cynllunio strategol a buddsoddiad hirdymor.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gwahodd rhanddeiliaid i rannu eu safbwyntiau ar faterion allweddol gan gynnwys natur contractau cyfredol, dyrannu risg, tryloywder prisiau a data manylebau, ynghyd ag effeithiolrwydd mecanweithiau i ddatrys anghydfodau. Bydd y wybodaeth a geir yn helpu i ddatblygu polisïau'r llywodraeth a chynlluniau deddfwriaethol posibl i feithrin cadwyn gyflenwi sy'n decach, yn fwy tryloyw ac yn fwy cadarn ar gyfer pawb sy'n rhan o’r farchnad cnydau a gynaeafir â chombein.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ledled y DU gan Defra, gyda chytundeb Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a DAERA. Bydd unrhyw gamau pellach a gymerir mewn ymateb i ganfyddiadau'r ymgynghoriad hwn yn cael eu datblygu ochr yn ochr â'r Llywodraethau Datganoledig.
Why your views matter
Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw casglu tystiolaeth ynghylch sut mae trefniadau cyflenwi'n gweithio ar hyn o bryd yn sector cnydau a gynaeafir â chombein y DU ac archwilio natur y berthynas rhwng cynhyrchwyr, prynwyr cyntaf a chyflenwyr mewnbynnau. Mae hefyd yn gofyn am farn ynghylch a oes modd gwella sut mae’r trefniadau contractiol hyn yn gweithio er mwyn creu cadwyn gyflenwi decach a mwy gwydn.
Fel arfer, busnesau fferm bach i ganolig eu maint, sy'n cyflenwi cynnyrch fel grawnfwydydd, hadau olew a chodlysiau, yw’r cynhyrchwyr cynradd yn y sector cnydau a gynaeafir â chombein. Bydd y cynhyrchwyr hyn yn aml yn gwerthu i nifer llai o brynwyr cyfun mwy sydd â llawer o bŵer yn y farchnad. Pan fydd anghydbwysedd o’r fath yn bodoli, gall cynhyrchwyr fod yn fregus i arferion masnachu a allai effeithio ar eu gallu i gynllunio, buddsoddi a thyfu'n gynaliadwy.
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gefnogi sector ffermio cynhyrchiol, proffidiol a chynaliadwy. Gan adeiladu ar y rheoliadau a gyflwynwyd ar gyfer y sector llaeth a’r sector moch, a'r ymgynghoriadau a gynhaliwyd ar gyfer wyau a chynnyrch ffres, mae'r adolygiad hwn o gnydau a gynaeafir â chombein yn rhan allweddol o'r ymrwymiad hwnnw. Ei nod yw sicrhau bod cysylltiadau ar draws y gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth yn dryloyw, yn deg ac yn effeithiol.
O dan Adran 29 o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol bwerau i gyflwyno rheoliadau sy'n mynd i'r afael ag arferion annheg a gwella tryloywder mewn cadwyni cyflenwi amaethyddol. Bydd y dystiolaeth a gesglir drwy'r ymgynghoriad hwn yn helpu i benderfynu a oes angen rheoliadau o'r fath ar gyfer y sectorau cnydau a gynaeafir â chombein a mewnbynnau amaethyddol, ac os felly, ar ba ffurf y dylent fod.
Defnyddio a rhannu eich gwybodaeth
Mae sut rydym yn defnyddio eich data personol wedi’i nodi yn hysbysiad preifatrwydd ymarfer ymgynghori a galwad am dystiolaeth, y gellir ei weld yma https://www.gov.uk/government/publications/defras-consultations-and-call-for-evidence-exercises-pri…
Gwybodaeth arall
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal yn unol ag “Egwyddorion Ymgynghori” y Cabinet Office y gellir eu gweld yn: Microsoft Word - Consultation Principles (1).docx
Audiences
- Anyone from any background
Interests
- Aarhus Convention
- Access to countryside and coast
- Air pollution
- Air quality
- Animal diseases
- Animal welfare
- Animals
- Areas of Outstanding Natural Beauty
- Bathing waters
- Bee health
- Biodiversity
- Bycatch
- Call for evidence
- Cattle
- Chemicals and pesticides
- Circus animals
- Climate change
- Common Agricultural Reform (CAP)
- Common Fisheries Policy
- Common land
- Conservation
- Conservation
- Construction
- Consultation
- Consultations
- Cross compliance
- Dairy industry
- Dangerous and wild animals
- Dangerous dogs
- Deforestation
- DEFRA Policy
- Disability Access
- Discarding
- Domestic Waste Water Systems
- Ecosystems services
- Egg industry
- Environmental Stewardship
- Farm management
- Fish stocks
- Flood emergency
- Flood insurance
- Flooding
- Fluorinated Greenhouse Gases
- Food and drink exports
- Food imports
- Food labelling
- Food standards
- Forestry
- Forestry
- Genetic Modification (GM)
- Green economy
- Green infrastructure
- Growing and crops
- Holiday Accommodation
- Horses
- House Building and Planning
- Hunting with dogs
- Illegal logging
- Impact Assessments
- Industry organisations representing tenant farmers and landlords
- Inland waterways
- Inland waterways
- Land management
- Livestock disease control
- Livestock identification and movement
- Local environments
- Local nature partnerships
- Marine
- Marine Conservation
- Marine Conservation Zones
- Marine fisheries
- Marine licensing
- Meat Industry
- National Adaptation Programme
- National Parks
- Natural environment
- Nature reserves
- Nitrates and watercourses
- Noise
- Non-native species
- Other engagement activity
- Ozone
- Palm oil
- Peat
- Pet Health
- Pet Ownership
- Pet Travel
- Pets
- Pigs
- Plants
- Policy and Delivery
- Pollution Sector
- Poultry
- Poultry industry
- Protected food names
- Protecting pets from cruelty
- Protecting wildlife
- Quarantine
- Recreational sector
- Resource Efficiency
- Retailers
- Rural broadband
- Rural Development Programme for England
- Rural economy and communities
- Rural grants and funding
- Rural Properties
- Science
- Sea angling
- Sewerage
- Sheep and goats
- Sheep, goat and deer production/marketing
- Shellfish
- Shellfish
- Single Payment Scheme (SPS)
- Skills, education, training and new entrants
- Soil
- Solicitors specialising in agricultural law
- Sustainable development
- Sustainable Fishing
- Towns and village greens
- Travelling with pets
- Tree and plant health
- Uplands
- Waste and recycling
- Water Abstraction
- Water Act
- Water Bill
- Water conservation
- Water Industry charging
- Water Industry licencing
- Water quality
- Watercourse maintenance
- Whales and dolphins
- Wildlife crime
- Wildlife management
- Wine industry
- Zoos
Share
Share on Twitter Share on Facebook