Diwygio Rheoliadau Bara a Blawd 1998 a Rheoliadau Bara a Blawd (Gogledd Iwerddon) 1998
Overview
Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) a’r gweinyddiaethau datganoledig yn ceisio safbwyntiau ar gynigion i ddiweddaru a diwygio Rheoliadau Bara a Blawd 1998 a Rheoliadau Bara a Blawd (Gogledd Iwerddon) 1998 sy’n ymdrin â rheolau penodol ar labelu a chyfansoddiad bara a blawd. Yn bennaf, mae’r rheoliadau’n ei gwneud yn orfodol i gyfnerthu blawd gwenith gwyn a blawd gwenith brown wedi’u melino nad ydynt yn gyflawn, sy’n cael eu gweithgynhyrchu a’u gwerthu yn y DU, â chalsiwm, haearn, thiamin a niasin, a hynny am resymau iechyd y cyhoedd i ddiogelu poblogaeth y DU rhag diffygion maethol.
Cododd galwadau am adolygiad o’r rheoliadau oherwydd y newidiadau deddfwriaethol ar ôl i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE).[1] Roedd y ceisiadau i’w hadolygu yn bennaf o ganlyniad i wahaniaeth rhwng y Rheoliadau Bara a Blawd a darnau eraill o ddeddfwriaeth bwyd o ran lefelau a manylebau fitaminau a mwynau a ychwanegir at fwydydd. Er ein bod wedi ceisio sicrhau bod y Rheoliadau Bara a Blawd yn gyson â deddfwriaeth safonau bwyd arall, rydym hefyd wedi ymrwymo i adolygu amrywiaeth o faterion eraill sy’n ymwneud â rhai o ddarpariaethau’r rheoliadau a godwyd gan randdeiliaid. Mae’r cynigion sydd wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn yn edrych ar sut y gellir sicrhau bod y rheoliadau’n arwain at iechyd gwell ar gyfer y cyhoedd, yn cefnogi diwydiant y DU, yn cynorthwyo awdurdodau gorfodi ac yn diogelu defnyddwyr.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ledled y DU, cyhoeddodd llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ym mis Medi 2021 eu bwriad i fwrw ymlaen â threfniadau i orfodi cyfnerthu blawd gwenith nad yw’n wenith cyflawn ag asid ffolig, a hynny er mwyn helpu i atal diffygion y tiwb niwral mewn ffetysau. Er mwyn lleihau effaith y gofyniad hwn ar y diwydiant, lle bo modd, dylid ymgorffori newidiadau niferus o dan un set o ddiwygiadau. Felly, mae ychwanegu asid ffolig at y rhestr o faethynnau y mae’n rhaid eu hychwanegu at flawd gwenith nad yw’n gyflawn yn cael ei gydlynu fel rhan o’r adolygiad ehangach hwn o’r rheoliadau.
Mae dros 99% o gartrefi ym Mhrydain yn prynu bara, ac mae chwarter yr holl nwyddau ym mhedair archfarchnad fwyaf y DU yn cynnwys blawd. Felly, bydd y cynigion i ddiwygio’r ddeddfwriaeth yn effeithio ar ystod eang o randdeiliaid gan gynnwys melinwyr blawd, gweithgynhyrchwyr bwyd, cyfanwerthwyr, manwerthwyr, mewnforwyr, awdurdodau gorfodi bwyd, a’r mwyafrif o ddefnyddwyr yn y DU. Hoffem glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb.
Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), ochr yn ochr ag Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Asiantaeth Safonau Bwyd Gogledd Iwerddon a Safonau Bwyd yr Alban, wedi cytuno i weithio ar yr adolygiad hwn gyda’i gilydd o dan fframwaith cyffredin dros dro Safonau Ynghylch Cyfansoddiad a Labelu Bwyd, a hynny er mwyn gwneud ymdrech i alinio polisi’r DU cyn belled ag y bo modd. Mae’r ymgynghoriad hwn hefyd yn cael ei gynnal ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC), Llywodraeth yr Alban ac Adran Iechyd Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol am faterion sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd. Bydd swyddogion ledled y DU yn ystyried ychwanegu asid ffolig at flawd o dan y fframwaith Safonau Labelu a Chyfansoddiad Maeth (NLCS), gan fod ychwanegu fitaminau a mwynau at fwyd yn dod o fewn cwmpas y fframwaith hwn.
[1] Daeth Rheoliadau Bwyd (Diwygio a Darpariaethau Trosiannol) (Lloegr) 2021; Rheoliadau Bwyd (Tynnu Cydnabyddiaeth yn Ôl) (Diwygiadau Amrywiol) (Yr Alban) 2021; Rheoliadau Bwyd (Tynnu Cydnabyddiaeth yn Ôl) (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 â’r trefniadau cydnabyddiaeth gilyddol ar gyfer blawd o aelod-wladwriaethau’r UE/Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) i ben. Mae hyn yn golygu y bydd angen i flawd gwenith a fewnforir o’r UE a’r AEE i Brydain Fawr gydymffurfio â gofynion cyfnerthu yn unol â’r Rheoliadau Bara a Blawd o fis Hydref 2022 ymlaen. O dan delerau Protocol Iwerddon/Gogledd Iwerddon, mae cydnabyddiaeth gilyddol yn parhau i fod yn gymwys i flawd sy’n cael ei fewnforio o aelod-wladwriaethau’r UE i Ogledd Iwerddon. Mae hyn yn golygu bod blawd a fewnforir o aelod-wladwriaethau’r UE i Ogledd Iwerddon wedi’i eithrio rhag gofynion y Rheoliadau Bara a Blawd. Ar yr un pryd, gwnaed newidiadau i ganiatáu gwerthu blawd heb ei gyfnerthu i’w allforio neu ei ddefnyddio mewn cynnyrch a oedd i’w allforio.
Why your views matter
Mae ymgynghori ar newidiadau i gyfraith bwyd yn y DU yn ofynnol yn unol â Rheoliad Cyfraith Bwyd yr UE a ddargedwir (EC) 178/2002, a Rheoliad Cyfraith Bwyd yr UE (EC) 178/2002 fel sy’n cael ei gymhwyso yng Ngogledd Iwerddon. Rydym yn ceisio safbwyntiau ar y dewisiadau polisi a gyflwynir yn yr ymgynghoriad hwn sydd wedi’u datblygu yn dilyn trafodaethau ag ystod o randdeiliaid perthnasol.
Diben yr ymgynghoriad yw sicrhau bod y Rheoliadau Bara a Blawd yn addas at eu diben ac yn cefnogi diwydiant y DU, wrth ddiogelu defnyddwyr ar yr un pryd.
Amcanion yr ymgynghoriad yw:
- Deall safbwyntiau partïon sydd â buddiant ar y cynigion polisi a gyflwynir.
- Asesu a yw’r cynigion newydd yn addas ac yn adlewyrchu anghenion y diwydiant, defnyddwyr ac awdurdodau gorfodi’r DU.
- Archwilio unrhyw ganlyniadau anfwriadol o’r cynigion newydd nad ydynt wedi’u hystyried.
Mae’r ymgynghoriad wedi’i rannu’n bum maes y mae’r cynigion yn ceisio mynd i’r afael â nhw:
- Rhyngweithio â rheoliadau bwyd ehangach – Mae cynigion polisi yn yr adran hon yn edrych yn bennaf ar y modd y gellir diweddaru’r rheoliadau i sicrhau cysondeb â deddfwriaeth safonau bwyd arall sy’n hwyluso dealltwriaeth a chydymffurfiaeth.
- Asid ffolig – Gan fod cyfnerthu ag asid ffolig eisoes wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus; mae’r rhan hon o’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar weithredu ymrwymiad y DU gyfan i gyflwyno’r gofyniad gorfodol i ychwanegu asid ffolig at flawd gwenith nad yw’n gyflawn. Mae’n amlinellu’r agweddau technegol sy’n ymwneud â’r polisi gan gynnwys y lefel arfaethedig o asid ffolig y dylid ei ychwanegu at flawd yn unol â nodau iechyd y cyhoedd er mwyn lleihau nifer y menywod beichiog sy’n profi diffygion y tiwb nerfol, ac ystyried cyfnod pontio addas i fusnesau allu addasu.
- Cwmpas y Rheoliadau – Mae rhan hon o’r ymgynghoriad yn egluro’r gwahanol ddehongliadau posib ynghylch cwmpas y gofynion cyfnerthu ar gyfer blawd gwenith. Nod y cynigion polisi yw sicrhau dealltwriaeth gyson ar draws y gadwyn gyflenwi bara a blawd, a sicrhau bod y rheoliadau’n cael eu gorfodi’n lleol.
- Yr hyn sydd wedi’i eithrio rhag gofynion cyfnerthu – Mae’r adran hon yn ymdrin â chynigion i leihau’r baich rheoleiddiol ar fusnesau pan nad yw canlyniadau iechyd y cyhoedd y polisi mewn perygl. Mae cynigion yn ystyried eithrio melinau bach rhag gofynion cyfnerthu, gan ystyried cyfyngiadau ymarferol a thechnolegol y rhan hon o’r diwydiant. Mae’r cynigion hefyd yn ystyried eithrio blawd fel cynhwysyn sy’n cyfrif am lai na 10% y cynnyrch bwyd terfynol, gan gydnabod nad yw’r cynhyrchion hyn yn cyfrannu’n fawr at gymeriant deietegol y maethynnau ychwanegol hyn.
- Gorfodi – Mae adran olaf yr ymgynghoriad yn ymdrin â chynigion i gael trefn orfodi fwy cymesur, gan ychwanegu hysbysiadau gwella fel y cam cyntaf i fynd i’r afael ag achosion o ddiffyg cydymffurfio.
Mae’r ymgynghoriad yn cynnig cyfle i randdeiliaid rannu eu dewisiadau a’u barn ar yr opsiynau polisi a gyflwynir. Disgwylir i’r ymgynghoriad hwn fod o ddiddordeb i felinwyr, gweithgynhyrchwyr bwyd, awdurdodau gorfodi, grwpiau defnyddwyr a chyrff cyhoeddus. Rydym hefyd yn ceisio gwybodaeth ychwanegol i ddatblygu ein hasesiad o effeithiau opsiynau polisi, gan sicrhau bod y cynigion a gyflwynir yn addas ar gyfer cyflawni amcanion y polisi ac yn cael eu gwirio mewn perthynas â chanlyniadau anfwriadol posib. Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu defnyddio i helpu i fireinio cynigion a llywio penderfyniadau polisi ar sut y bydd llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn bwrw ymlaen ag unrhyw newidiadau deddfwriaethol dilynol.
What happens next
Byddwn yn adolygu’r holl ymatebion i’r ymgynghoriad yn ofalus gan ystyried y safbwyntiau a fynegwyd, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth ychwanegol a ddarperir a fydd yn cael ei defnyddio i fireinio cynigion ymhellach a llywio’r asesiad effaith. Disgwylir i grynodeb o’r ymatebion gael ei gyhoeddi ar wefan gov.uk cyn pen 12 wythnos i ddiwedd yr ymgynghoriad.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd Gweinidogion o lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn gwneud penderfyniad terfynol ar unrhyw newidiadau deddfwriaethol, gan ystyried yr ymatebion a ddaeth i law.
Audiences
- Charities/Voluntary Organisations
- Food Business Operators
- Food Industry
- Devolved Administrations
- Policy Teams
- Local Authorities
- Retail Industry
- Manufacturing Industry
- Member of the General Public
- Trading Standards Officers
- Environmental Health Officers
Interests
- Food standards
- Food imports
- Food and drink exports
Share
Share on Twitter Share on Facebook