Cydberthnasau contractiol yn niwydiant llaeth y DU
Overview
Cynhelir yr ymgynghoriad hwn mewn ymateb i bryderon a godwyd bod cynhyrchwyr cynradd, gan gynnwys ffermwyr godro, yn tueddu i fod mewn sefyllfa gymharol wan ym marchnad y gadwyn cyflenwi bwyd. Y consensws ymhlith cynhyrchwyr amaethyddol y DU yw y gall y pŵer bargeinio anghyfartal â phroseswyr a manwerthwyr wneud ffermwyr yn agored i driniaeth annheg gyda'r potensial i danseilio proses o drosglwyddo prisiau teg ar hyd y gadwyn.
Mae nifer o wledydd eraill wedi cyflwyno rheoliadau mewn ymgais i sefydlogi marchnadoedd a mynd i'r afael ag anghydbwyseddau systemig. Yn yr Undeb Ewropeaidd, mae 13 o aelod-wladwriaethau, gan gynnwys Ffrainc a Sbaen, wedi cyflwyno cyfreithiau ar gontractau llaeth ysgrifenedig gorfodol rhwng ffermwyr a phroseswyr. Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ei dadansoddiad o'r gadwyn cyflenwi llaeth a'r ffordd y cymhwysir Contractau Ysgrifenedig Gorfodol ledled yr Undeb Ewropeaidd, er mwyn gwerthuso effaith y contractau lle maent wedi cael eu mabwysiadu. Ymhellach draw, mae llywodraeth Awstralia wedi cyflwyno cod ymddygiad gorfodol ynglŷn â llaeth yn ddiweddar.
Yn 2012, cytunodd y diwydiant ar god arferion gorau gwirfoddol ar gydberthnasau contractiol yn y sector llaeth. Nododd safonau gofynnol ar gyfer arferion da wrth lunio contractau rhwng cynhyrchwyr a phrynwyr. Yn yr un flwyddyn, cynhaliwyd ymgynghoriad ac asesiad o'r effaith mewn perthynas â chontractau ysgrifenedig gorfodol, fel rhan o asesiad o weithredu Pecyn Llaeth yr UE. Cynhaliwyd ymgyngoriadau ar wahân gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Gogledd Iwerddon. Roedd y canlyniadau'n dangos dymuniad i roi digon o amser i'r cod gwirfoddol ddod yn weithredol. Cadwyd yr hawl i adolygu'r sefyllfa o ran cydberthnasau contractiol ac, os oedd angen, ailystyried cyflwyno deddfwriaeth ar gontractau os nad oedd y diwydiant wedi sicrhau'r newidiadau dymunol ar ôl cyfnod rhesymol o amser. Yn 2016, lansiwyd cais ffurfiol am dystiolaeth i ystyried yr achos dros estyn cylch gwaith Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Nwyddau Groser. Rôl y Dyfarnwr yw sicrhau bod y manwerthwyr domestig mwyaf yn trin eu cyflenwyr uniongyrchol mewn ffordd deg a chyfreithlon drwy orfodi a monitro cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer Cyflenwi Nwyddau Groser. Cydnabyddir y Dyfarnwr fel rheoleiddiwr modern rhagorol sydd ag enw da yn rhyngwladol. Mae'n helpu i gryfhau cydberthnasau yn y gadwyn gyflenwi er budd defnyddwyr, manwerthwyr a busnesau bwyd eraill.
Datgelodd y broses hon dystiolaeth gan randdeiliaid o gydberthnasau contractiol gwael yn y sector llaeth. Tynnodd nifer bach o ymatebwyr sylw at yr her a achosir gan amrywiadau i ragofynion neu delerau contractau, yn enwedig os cânt eu gosod ar fyr rybudd. Cododd eraill yr anawsterau y mae cynhyrchwyr yn eu hwynebu wrth geisio terfynu eu contractau o fewn cyfnod rhesymol, os gwneir newidiadau sylweddol i brisiau neu delerau'r contract. Mae'r dystiolaeth hon yn awgrymu patrwm o delerau ac amodau annheg neu aneglur mewn contractau rhwng cynhyrchwyr a phroseswyr o bosibl a allai gyfyngu ar allu ffermwyr i gyllidebu'n effeithiol, rheoli prisiau anwadal a rhedeg busnesau proffidiol. Mae'r dystiolaeth hon yn awgrymu nad yw'r cod gwirfoddol yn cael yr effaith a ddymunir o ran gwella cydberthnasau yn y gadwyn gyflenwi.
Roedd ymateb Llywodraeth y DU i Gais Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Nwyddau Groser am Dystiolaeth (a gyhoeddwyd ar 16 Chwefror 2018), yn cynnwys ymrwymiad i ymgynghori ar gyflwyno contractau ysgrifenedig gorfodol drwy ddefnyddio pwerau yn neddfwriaeth yr UE. Gan fod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn lle hynny, rydym yn ceisio pwerau domestig newydd i gyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth. Bydd y defnydd o bwerau domestig yn ein galluogi i ystyried natur benodol sector llaeth y DU, ond bydd egwyddorion cyffredinol deddfwriaeth yr UE yn debygol o fod yn berthnasol o hyd.
Mae'r pandemig COVID-19 diweddar wedi tynnu sylw ymhellach at yr anawsterau a wynebir gan ffermwyr godro weithiau, yn enwedig o ran newidiadau sydyn mewn prisiau. Er bod y problemau a wynebai'r sector yn ehangach na'r rhai a oedd yn ymwneud yn benodol ag arferion mewn contractau, byddem yn annog ymatebwyr i gyflwyno eu safbwyntiau ar ba fesurau contractiol, os o gwbl, a fyddai'n gwneud y diwydiant llaeth yn fwy cadarn pe bai sefyllfaoedd tebyg yn codi yn y dyfodol.
Er bod y rhan fwyaf o'r llaeth a gynhyrchir ym Mhrydain Fawr yn cael ei werthu ar y farchnad ddomestig, mae gan y farchnad yng Ngogledd Iwerddon ffocws ar allforio, sy'n golygu bod cadwyn cyflenwi llaeth Gogledd Iwerddon yn llawer mwy dibynnol ar enillion o'r marchnadoedd nwyddau byd-eang. Mae strwythur y sector prosesu hefyd yn amrywio ledled y DU, gyda lefel uwch o gwmnïau cydweithredol yng Ngogledd Iwerddon.
What happens next
Caiff ymatebion sy'n dod i law erbyn 15/09/20 eu dadansoddi a'u hystyried gan bob un o weinyddiaethau'r DU wrth ystyried y mesurau sydd eu hangen i wella arferion contractiol yn y sector llaeth. Bydd yr ymatebion ar gael i'r timau perthnasol o swyddogion polisi yn y gweinyddiaethau datganoledig, a all rannu gwaith dadansoddi a chasgliadau ag uwch-swyddogion a gweinidogion. Ar ôl yr ymgynghoriad, caiff crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU yn www.gov.uk/defra.
Bydd y crynodeb yn cynnwys rhestr o enwau a sefydliadau a ymatebodd ond nid enwau personol, cyfeiriadau na manylion cyswllt eraill. Fodd bynnag, gall y wybodaeth a roddir mewn ymateb i'r ddogfen ymgynghori hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, gael ei chyhoeddi neu ei rhyddau i bartïon eraill neu ei datgelu yn unol â'r trefniadau mynediad at wybodaeth e.e. Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018.
Audiences
- Trade Unions
- Food Business Operators
- Food Industry
- Policy Teams
- Non-Government Organisation
- Farmers
Interests
- Dairy industry
Share
Share on Twitter Share on Facebook